|
|
Mae'r safle hwn yn cael ei gynnal gan Gyngor Sir Powys fel rhan o'r gweithgareddau wrth ddatblygu ymwybyddiaeth am dechnolegau gwybodaeth a chyfathrebu a'u cymhwyso ar gyfer pob sector o'r boblogaeth wledig ym Mhowys. Nid oes tâl am gymryd rhan yn y prosiect ar gyfer pob mudiad cymwys . Ni ellir gwerthu lle ar y we ar y parth hwn i bartïon eraill o dan unrhyw amgylchiadau. Mae Cyngor Sir Powys drwy Gymunedau Powys Ar Lein yn cadw'r hawl i beidio â chynnal gwefannau a thudalennau gwe nad ydynt o fewn ethos y prosiect ac nad ydynt yn gweithredu o fewn ysbryd y safle. Nid yw Cyngor Sir Powys yn gwneud ymrwymiad neu warantiadau ynglþn â pha mor ddibynadwy yw'r gwasanaeth neu natur y gwasanaeth a ddarperir gan y system Cymunedau Powys Ar Lein. Nid yw Cyngor Sir Powys yn gwneud unrhyw ymrwymiadau neu warantiadau i gynnal neu ddarparu copïau cadw o'r ffeiliau a osodir ar y parth nac yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb pendant neu wedi'i awgrymu mewn perthynas â gosod ffeiliau a'u diogelwch neu mewn perthynas â gweinyddydd ffeiliau y parth yn torri. Nid ydynt yn ymrwymo i atgyweirio unrhyw ddiffygion o fewn amser penodol. Nid yw Cyngor Sir Powys yn gwneud unrhyw fath o gynrychiolaethau neu warantiadau mewn perthynas ag ansawdd, diogelwch neu addasrwydd cynnwys y tudalennau neu wefannau, boed yn ffurfiol neu wedi'i awgrymu, gan gynnwys unrhyw warantiadau wedi eu hawgrymu heb gyfyngiadau am werth ac addasrwydd ar gyfer pwrpas penodol neu beidio â throseddu. Ymhellach at hyn, nid yw Cyngor Sir Powys yn gwneud unrhyw gynrychiolaethau neu warantiadau mewn perthynas â gwirionedd, cywirdeb neu ba mor gyflawn yw unrhyw ddatganiadau, gwybodaeth neu ddeunyddiau yn ymwneud â thudalennau gwe sy'n cael eu cynnwys ar y safleoedd Rhyngrwyd Cymunedau Powys Ar Lein. Ni fydd Cyngor Sir Powys yn atebol ar unrhyw achlysur am unrhyw niweidiau anuniongyrchol, cosbol, arbennig , damweiniol neu ganlyniadol pa bynnag ffordd y byddant yn codi a hyd yn oed os bydd Cyngor Sir Powys wedi cael ei gynghori am bosibilrwydd difrod o'r fath.. Os bydd unrhyw ran o'r ymwadiad hwn yn cael ei ystyried yn annilys neu'n anorfodadwy o dan unrhyw sefyllfa benodol, bydd grym yr ymwadiad dal yn gymwys a bydd yr ymwadiad yn cael ei fwriadu i fod yn gymwys mewn sefyllfaoedd eraill. Bydd rhaid i fudiadau cymwys sy'n gosod gwybodaeth ar y safle hwn gytuno i ddigolledu Cyngor Sir Powys yn erbyn unrhyw hawliad neu weithredoedd a gymerir o ganlyniad i'r ffaith bod unrhyw un o'ch tudalennau gwe naill ai yn anghywir neu gamarweiniol. Bydd ymgeisio er mwyn cymryd rhan ym mhrosiect Cymunedau Powys ar Lein yn golygu eich bod wedi derbyn amodau a thelerau y ddogfen hon. |
|
Mae Cyngor Sir Powys wedi defnyddio Open Source software wrth ddatblygu'r safle hwn.
|